Marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Her Majesty Queen Elizabeth II

Gyda thristwch dwys y nodwn fod Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi huno; symbol o gysondeb, a wasanaethodd yn ffyddlon, ac uwchlaw popeth, mam, mam-gu, a hen fam-gu annwyl iawn. Boed iddi nawr orffwys mewn hedd.

Yng ngeiriau Cadeirydd WRAP, Julie Hill: “Mae’r Frenhines wedi bod, fel y dywed llawer un, yn symbol disglair o wasanaeth a chysondeb drwy oes o newid a fu’n aml yn gythryblus. Roedd ganddi bresenoldeb a gwên a fu’n oleuni ym mywydau nifer fawr iawn o bobl, a daeth dathliadau yn ei henw â phobl ynghyd o gefndiroedd amrywiol mewn modd y gallai prin unrhyw arweinydd arall ei gyflawni. Fe welaf y cyfnod o alar cyhoeddus fel cyfnod i fyfyrio ar y bobl a’r gwerthoedd sy’n bwysig inni, a sut maen nhw’n gwella ein cymunedau amrywiol.” 

Mae geiriau’r Frenhines o COP26 yn fwy dwys ac ystyrlon fyth heddiw a byddwn yn parhau i gael ein hysbrydoli ganddynt. “Nid oes yr un ohonom yn amcangyfrif yr heriau o’n blaenau’n rhy isel: ond mae hanes wedi dangos bod lle am obaith bob amser pan fo cenhedloedd yn dod ynghyd ar gyfer achos a rennir.” 

Mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau diffuant gyda’r Teulu Brenhinol yn y cyfnod hwn.

Contact details