Sbarduno’r economi gylchol

Rydym yn arwain y byd oddi wrth ddiwylliant ‘cymryd-gwneud-gwaredu’ i ddull ‘dylunio-gwneud-ailddefnyddio’ – gan arwain at leihad radical mewn gwastraff ac allyriadau carbon o nwyddau beunyddiol.

TRAWSNEWID EIN SYSTEMAU I SBARDUNO’R ECONOMI GYLCHOL

Mae’r ffordd yr ydym yn gwneud ac yn defnyddio ein nwyddau’n cyfrannu’n sylweddol at newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, ac mae angen dybryd inni weithredu nawr ar draws cenhedloedd, busnesau a chartrefi.

Mae arnom angen newid yn gyflym o fodel diwydiannol llinol ‘cymryd-gwneud-gwaredu’ y ganrif ddiwethaf.

Ein nod yw sbarduno’r newid i economi gylchol drwy gadw nwyddau a deunyddiau’n ddefnyddiol yn hirach, cefnogi arloesedd, mabwysiadu modelau busnes newydd a chynyddu faint o ddeunydd sy’n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu, yn ogystal â lleihau gwastraff a lleihau’r ddibyniaeth ar ddeunyddiau crai.

Y problemau

3 biliwn
Mae mwy na 3 biliwn o bobl o amgylch y byd heb fynediad at wasanaethau gwastraff.
525 mt
Yn y G7, byddai gwneud gwell defnydd o nwyddau drwy ymestyn eu hoes yn arwain at arbedion cyfatebol i garbon o 525 mt bob blwyddyn.
73%
Rhagwelir y bydd gwastraff byd-eang yn cynyddu gan 73% erbyn 2050 i 3.9 biliwn tunnell.
50%
Mae angen cymorth a buddsoddiad ar genhedloedd llai datblygedig i gyflawni ailgylchu 50% erbyn 2050.

Camau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer sbarduno’r economi gylchol

Hyrwyddo ailddefnyddio ac ailgylchu

Hyrwyddo ailddefnyddio ac ailgylchu

Rydym yn hyrwyddo atal gwastraff ac yn cefnogi mentrau sy'n cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu, gan arbed adnoddau gwerthfawr a lleihau ôl troed carbon y cynhyrchion a ddefnyddiwn.

Rydym yn gweithio mewn meysydd lle gwyddom y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan gydweithio â sefydliadau ledled y byd sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Extended Producer Responsibility (EPR)

Gweithredu ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr

Gyda’r cynnydd sydyn mewn defnyddio amrywiaeth eang o nwyddau o amgylch y byd, mae’n angenrheidiol inni fynd i’r afael â gwastraff problemus.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ledled y byd i ddarparu arweiniad ac arbenigedd ynghylch systemau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (extended producer responsibility/EPR) presennol neu rai posibl ar gyfer amrywiaeth o ffrydiau gwastraff problemus.

Newid i gylcholdeb nwyddau

Newid i gylcholdeb nwyddau

Er mwyn newid i fodel newydd o ddylunio, gwneud ac ailddefnyddio, mae angen inni newid ein dull o greu a defnyddio nwyddau. Mae angen dull lle caiff nwyddau eu dylunio i leihau effaith amgylcheddol a mwyhau effeithlonrwydd adnoddau.

Mae chwant gan ddinasyddion i brynu nwyddau wedi’u dylunio yn y modd hwn. Mae ein cyfres o Safonau Ffordd Gylchol o Fyw yn darparu ateb i frandiau a gwneuthurwyr wneud y newid hwnnw.

Cefnogi newidiadau rheoli adnoddau, a symbylu arloesedd

Cefnogi newidiadau rheoli adnoddau, a symbylu arloesedd

Rydym yn helpu llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol ledled y byd i lywio penderfyniadau polisi y gellir eu datblygu i gamau gweithredu sy’n atal gwastraff.

Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, cwmnïau rheoli gwastraff a busnesau i wneud eu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu fod ar eu gorau, gan gynnig cymorth technegol wedi’i deilwra i wella ansawdd a symiau ailgylchu yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Awstralia a’r Undeb Ewropeaidd.

Cyflawni newid trawsnewidiol

Ymunwch â ni i arwain y newid

Gyda’n gilydd, gallwn wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn realiti.

Cysylltu â ni