Rydym yn gweithio law yn llaw â busnesau, llywodraethau, a phobl i bweru Ffordd Gylchol o Fyw, gan eu helpu i newid o fodelau llinol gwastraffus i arferion mwy deallus a chynaliadwy.
Gyda’n gilydd, gallwn wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn realiti i bawb.

Cydweithio a gweithredu ar y cyd
Rydym yn adnabyddus am dynnu llunwyr polisïau, busnesau a chyrff anllywodraethol ynghyd mewn gofod cyn-gystadleuol fel catalydd ar gyfer gweithredu ar y materion systemig na all yr un sefydliad eu datrys ar ei ben ei hun.

Newid ymddygiad
Rydym yn ymchwilio, datblygu, treialu, cyflawni a gwerthuso rhaglenni newid ymddygiad a gaiff eu llywio gan ddirnadaethau ar gyfer dinasyddion, cwsmeriaid neu staff.

Cyllid ar gyfer gweithredu ac arloesi
Rydym yn cyfarwyddo grantiau, rydym yn gwneud buddsoddiadau, ac rydym yn alinio arferion ariannol â nodau cynaliadwyedd – oll er mwyn creu catalydd i newid system a chywiro methiannau’r farchnad.

Dylunio polisïau a’u rhoi ar waith
O strategaethau i gydymffurfio, gall ein hadnoddau a’n harbenigedd helpu gydag ymchwilio, modelu a gwerthuso mecanweithiau polisi i lywodraethau, bwrdeistrefi a busnesau.

Atebion technegol ac ymgynghoriaeth
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chyngor mewn meysydd fel modelau busnes cylchol, dadansoddi data, lleihau gwastraff, datblygu sgiliau, cyfathrebu a mwy.

Ardystiad a safonau
Rydym yn ardystio nwyddau yn erbyn ein safonau cylcholdeb byd-eang i alluogi defnyddwyr i ddeall a rhoi gwerth ar effaith yr hyn y maent yn ei brynu.
Pori mwy
Cysylltu â ni
Work with us.
Together we can make Circular Living a reality.