Amdanom ni

Ein cenhadaeth yw gwreiddio ffordd gylchol o fyw ym mhob ystafell fwrdd ac ar bob aelwyd.

Corff gweithredu amgylcheddol anllywodraethol yw WRAP, sy’n gweithio’n fyd-eang i drawsnewid ein systemau nwyddau a bwyd diffygiol i greu Ffordd Gylchol o Fyw er budd hinsawdd, natur a phobl.

Mae’r hen ddull o ‘gymryd, gwneud, gwaredu’ yn brif achos o anghydraddoldeb, allyriadau nwyon tŷ gwydr a’r mynyddoedd o wastraff sy’n llygru ein dŵr ac yn dinistrio bioamrywiaeth.

Mae bwyd, tecstilau, a nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu’n cyfrif am bron i 50% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang. Rydym yn cynnig ffordd newydd o wneud pethau. Trwy archwilio heriau cynaliadwyedd drwy lens bywydau beunyddiol pobl, rydym yn dylunio atebion trawsnewidiol. Rydyn ni’n galw hyn yn Ffordd Gylchol o Fyw.

Corff anllywodraethol ydym ni sydd wedi’i seilio ar arbenigedd dechnegol, sylfaen o dystiolaeth ddiduedd a phŵer ymgynnull annibynnol. Am dros ugain mlynedd, mae WRAP wedi cyflawni rhaglenni er budd yr amgylchedd – o leihau allyriadau CO2 a gwastraff i adfer natur a gwella bywydau pobl.

Mae WRAP o blaid y rhai sy’n gwneud.  Credwn mewn cyflawni effaith drwy dynnu pobl ynghyd a harneisio pŵer busnesau, cyrff anllywodraethol a llywodraethau i greu’r newidiadau systemig y mae angen dybryd amdanynt ar ein planed a’n cymunedau.

“Mae WRAP wedi creu enw da am feithrin partneriaethau cydweithredol sy’n sbarduno newid ledled y byd. Byddwn yn uno partneriaid mewn rhwydwaith a rennir er mwyn manteisio ar arfer gorau a sbarduno’r gwaith o’i gyflawni.”

Sebastian Munden, Cadeirydd, Bwrdd Ymddiriedolwyr WRAP

Lle’r ydym yn gweithio

Mae ein gwreiddiau a chyfran sylweddol o’n gwaith yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, lle cawsom ein sefydlu yn 2000.

Mae gennym brosiectau ar y gweill ac rydym yn cydweithredu’n weithredol â phartneriaid ym mhedwar ban byd o Dde Affrica i Mecsico, ac o Indonesia i’r UDA.

Mae gennym swyddfeydd yn Llundain, Washington, DC, ac Adelaide.

Mae’r ôl troed a’r cysylltiadau gennym o amgylch y byd i gyflawni ar lefel fyd-eang.

Ymunwch â ni i arwain y newid

Barod i’n helpu ni drwsio systemau diffygiol y byd?

Cysylltu â ni