Yr her
Gyda’i gilydd, mae bwyd, tecstilau, a nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu’n cyfrif am bron i 50% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang.
Mae’r hen ddull o ‘gymryd-gwneud-gwaredu’ yn un o brif achosion anghydraddoldeb, nwyon tŷ gwydr, a mynyddoedd o wastraff. Mae’n dinistrio ein planed, yn llygru ein dŵr, ac yn dinistrio bioamrywiaeth.
“Fe ymunais i â WRAP dros flwyddyn yn ôl: i helpu i roi terfyn ar yr economi linol ‘cymryd-gwneud-taflu’ a normaleiddio Ffordd Gylchol o Fyw. Rwy’n argyhoeddedig ein bod ar drothwy’r newid mawr hwnnw i economi’r dyfodol – er y bydd yn galw am weithredu gan lywodraethau, cwmnïau a dinasyddion i’w wneud yn realiti.”
Ein hateb
Mae angen inni drawsnewid y systemau diffygiol hyn. Ffordd Gylchol o Fyw yw ein model ar gyfer gwneud hynny.
Rydym yn archwilio heriau cynaliadwyedd drwy lens bywydau beunyddiol pobl. Rydym yn trawsnewid y systemau sy’n cyflenwi’r nwyddau a ddefnyddiwn. Rydym yn gatalydd i weithredu gan lunwyr polisïau, busnesau, sefydliadau anllywodraethol a dinasyddion.
Mae Ffordd Gylchol o Fyw yn golygu creu byd gyda gwell safonau byw drwy ddefnyddio ein hadnoddau gwerthfawr mewn modd mwy deallus. Drwy weithio gyda’n gilydd i wireddu’r newid hwn – gallwn helpu taclo newid hinsawdd, diogelu natur, a lleihau anghydraddoldeb.
Ein blaenoriaethau
-
Sbarduno’r Economi Gylchol
Rydym yn arwain y byd oddi wrth ddiwylliant ‘cymryd-gwneud-gwaredu’ i ddull ‘dylunio-gwneud-ailddefnyddio’ – gan arwain at leihad radical mewn gwastraff ac allyriadau carbon o nwyddau beunyddiol.
-
Diogelu bwyd ar gyfer y dyfodol
Rydym yn newid y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta – gan leihau’r costau i’r amgylchedd, i fusnesau ac i bobl.
-
Atal plastigion problemus
Rydym yn ail ddylunio system plastigion, ar hyd y gadwyn werth – gan atal gwastraff a chadw’r deunydd allan o’r amgylchedd.
-
Trawsnewid tecstilau
Rydym yn trawsnewid y ffordd y caiff tecstilau eu gwneud, eu prynu a’u defnyddio – gan leihau allyriadau, lleihau’r defnydd o ddŵr a lleihau llygredd.
Pori mwy
Cysylltu â ni
Work with us.
Together we can make Circular Living a reality.