Canolfan Cyfryngau

Mae ymgysylltu a llywodraethau, busnesau a’r cyhoedd yn hollbwysig. Drwy ein canolfan cyfryngau, ein nod yw codi ymwybyddiaeth am y camau y mae angen dybryd i ni eu cymryd ar y cyd.

Mae WRAP yn gweithio gyda chyfryngau byd-eang yn ddyddiol.

Rydyn ni'n darparu pytiau sain, darnau briffio, barn, dirnadaethau, sylwebaeth, a'r data diweddaraf – mae gennym dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, a pham.

Gallwn weithio i amserlenni tynn, a gallwn siarad yn awdurdodol am ffordd gylchol o fyw, o safbwynt byd-eang.

Mae gennym arbenigwyr technegol sy’n gallu egluro’r wyddoniaeth sy’n sail i effeithlonrwydd adnoddau a newid hinsawdd mewn manylder fforensig – a siaradwyr a fydd yn dod â phwnc yn fyw mewn mater o funudau, i gynulleidfa o ddinasyddion.

Pam WRAP?

Mae gwaith arloesol WRAP wedi bod yn diogelu’r amgylchedd naturiol, yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn gwella bywydau pobl am fwy nag ugain mlynedd. Heddiw, rydym yn helpu cannoedd o bartneriaid mewn gwledydd a chyfandiroedd ledled y byd.

Rydym yn gorff dielw, annibynnol, unigryw, sy’n gweithredu rhwng llywodraeth, diwydiant, busnes a’r cyhoedd. Mae gan ein harbenigwyr ddegawdau o brofiad ymchwil ac ymarferol. Ar hyn o bryd, mae gennym raglenni gweithredol ym meysydd bwyd, plastigion, tecstilau, a’r economi gylchol.

Cysylltu â ni

Mae arbenigwyr cyswllt â’r cyfryngau WRAP ar gael i helpu, dyddiau Llun – Gwener, 9.00am hyd 5:00pm (GMT): +44 7951 34619

Mae gennym hefyd linell cyfryngau argyfwng allan o oriau, dyddiau Llun – Gwener, 7.00am hyd 10.00pm (GMT).

Yn anffodus, ni allwn helpu gyda phrosiectau prifysgol neu ymholiadau nad ydynt ar gyfer y cyfryngau, ond mae’n debygol iawn bod adnodd ar ein gwefan a all helpu.

Ebostio’r tîm cyfryngau