Ein gwaith

Corff gweithredu amgylcheddol anllywodraethol yw WRAP, sy’n gweithio’n fyd-eang i drawsnewid ein systemau nwyddau a bwyd diffygiol i greu Ffordd Gylchol o Fyw. Er budd yr hinsawdd, natur a phobl.

Mae’r hen ddull o gymryd-gwneud-gwaredu yn brif achos o anghydraddoldeb, nwyon tŷ gwydr a’r mynyddoedd o wastraff sy’n llygru ein dŵr ac yn dinistrio bioamrywiaeth.

Mae angen dull newydd ar gyfer bwyd, tecstilau a nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu – sydd, gyda’i gilydd, yn cyfrif am bron i 50% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang.

Galwn y dull hwn yn Ffordd Gylchol o Fyw – dylunio-gwneud-ailddefnyddio – a bydd yn arwain at leihad radical mewn gwastraff ac allyriadau carbon o nwyddau beunyddiol.

Gydag arbenigedd technegol, sylfaen o dystiolaeth ddiduedd, a grym ymgynnull annibynnol, mae WRAP mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn realiti.

Ers dros ugain mlynedd, mae WRAP wedi bod yn cyflawni rhaglenni sy’n lleihau CO2 a gwastraff, yn adfer natur, ac yn newid ymddygiad pobl.

Ein gwasanaethau

Mae cydweithio’n allweddol ar gyfer sbarduno newid effeithiol. Mae WRAP o blaid y rhai sy’n gwneud, yn tynnu busnesau, cyrff anllywodraethol a llywodraethau ynghyd i greu’r newid systemig y mae angen dybryd amdano ar ein planed a’n cymunedau.

Mae llywodraethau, busnesau, sefydliadau amlochrog a chyrff anllywodraethol ledled y byd yn ymddiried yn ein cyngor.

  • Newid ymddygiad

  • Ardystiad a safonau

  • Cydweithio a gweithredu ar y cyd

  • Cyllid ar gyfer gweithredu ac arloesi

  • Dylunio a gweithredu polisïau

  • Atebion technegol ac ymgynghoriaeth

Case studies

Cipolwg ar ein gwaith

Mae ein hastudiaethau achos yn rhoi darlun o rywfaint o’r gwaith rydym wedi’i wneud er lles yr hinsawdd, natur a phobl. Gallwch ddarllen manylion yr effaith rydym wedi’i chael drwy ein mentrau, ein cydweithio a’n hadnoddau.

Dysgu mwy
Impact

Ein heffaith yn fyd-eang

Yn ystod yr 20+ mlynedd ddiwethaf, rydym wedi creu newid ystyrlon mewn mwy na 40 o wledydd. Yn y Deyrnas Unedig yn unig, rydym wedi uno bron i 700 o sefydliadau. Mae gennym nifer fawr o gytundebau a phartneriaethau rhyngwladol, ac rydym yn gweithio gyda llywodraethau a sefydliadau llywodraethol ledled y byd.

Dysgu mwy

Ymunwch â ni i arwain y newid

Credwn ym mhŵer gweithio gyda’n gilydd i greu newid hirhoedlog.

Gweithiwch gyda ni wrth inni arwain y ffordd tuag at greu dyfodol mwy cynaliadwy.

Cysylltu â ni