TRAWSNEWID SYSTEM FWYD Y BYD
Trwy ein mentrau sydd ar flaen y gad yn fyd-eang a phartneriaethau cydweithredol, nod WRAP yw haneru gwastraff bwyd, lleihau straen dŵr a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn trwsio ein system fwyd ddiffygiol a diogelu bwyd ar gyfer y dyfodol.
Mae'r system fwyd yn defnyddio 70% o adnoddau dŵr croyw byd-eang, yn cyfrif am 30% o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang ac eto mae mwy na 25% o'r bwyd a gynhyrchir yn cael ei golli neu ei wastraffu.
I greu system fwyd sy’n ddiogel ar gyfer y dyfodol, mae’n rhaid inni newid y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta. Mae ein harbenigedd technegol, ein sylfaen dystiolaeth a’n pŵer i gynnull y gadwyn werth bwyd a diod yn helpu llunwyr polisi, busnesau a dinasyddion ledled y byd i gymryd y camau cywir.
Camau a fydd yn sicrhau system fwyd gydnerth lle byddwn yn haneru gwastraff bwyd ar draws manwerthu cynhyrchwyr bwyd ac yn ein cartrefi, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â bwyd a diogelu adnoddau dŵr hanfodol ar gyfer cyflenwad bwyd. Byddwch yn rhan o’r newid. Ymunwch â ni.
Priority actions for future-proofing food
Camau blaenoriaethol i ddiogelu bwyd ar gyfer y dyfodol

Lleihau gwastraff bwyd
Mae methodoleg Targedu, Mesur, Gweithredu WRAP yn helpu busnesau bwyd gymryd camau gweithredu wedi’u targedu a darparu adnoddau ac arweiniad i helpu mesur gwastraff bwyd yn effeithiol a galluogi gweithredu drwy roi strategaethau lleihau gwastraff bwyd rhagweithiol ar waith.

Lleihau straen dŵr
Mae llwybr WRAP a’i brosiectau gweithredu ar y cyd yn cynnig atebion ymarferol i ddiogelu adnoddau dŵr hanfodol ar gyfer cyflenwi bwyd.
Gwaith hollbwysig a fydd yn adfer cynefinoedd, diogelu priddoedd, cynyddu storfeydd carbon, cefnogi cymunedau lleol, lleihau llygredd, ac atal llifogydd.

Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Mae WRAP yn arwain y gad ar newid ar draws y sector bwyd a diod i alluogi cymryd camau tuag at gyflawni sero net.
Drwy ein protocolau Cwmpas 3 blaengar, rydym yn helpu busnesau i fesur ac adrodd ar nwyon tŷ gwydr y sector bwyd, a thrwy ein partneriaethau strategol a’n rhaglenni gweithredu cydweithredol rydym yn sbarduno gweithredu ar y cyd gan y diwydiant.
Cyflawni newid trawsnewidiol
-
Y Courtauld Commitment 2030
Cytundeb gwirfoddol blaenllaw’r Deyrnas Unedig ar gyfer y sector bwyd a diod. Yn helpu busnesau, llywodraethau a chyrff anllywodraethol i gyflawni camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn unol ag ymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar leihau gwastraff bwyd, allyriadau nwyon tŷ gwydr a straen dŵr.
-
Map Trywydd Dŵr Courtauld 2030
Mae Map Trywydd Dŵr Courtauld 2030 yn cyflwyno gweledigaeth a llwybr mentrus ar gyfer y gadwyn cyflenwi bwyd i leihau straen dŵr a diogelu adnoddau dŵr hanfodol ar gyfer cyflenwi bwyd, ar gyfer natur ac ar gyfer cymunedau lleol.
-
Map Trywydd Lleihau Gwastraff Bwyd
Wedi’i gyflwyno gan WRAP mewn partneriaeth ag IGD, rydym yn gweithio gyda busnesau bwyd ar raglenni wedi’u teilwra i leihau gwastraff bwyd yn eu gweithrediadau eu hunain, gyda chyflenwyr a defnyddwyr.
-
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yw ymgyrch byd-eang WRAP ar wastraff bwyd o gartrefi i helpu dinasyddion gydag atebion a dulliau ymarferol i leihau gwastraff bwyd yn ein cartrefi.
-
Guardians of Grub
Mae Guardians of Grub gan WRAP yn targedu camau gweithredu yn y sector lletygarwch a gwasanaethau bwyd. Mae ein canllawiau a’n hadnoddau’n grymuso gweithwyr bwyd proffesiynol i leihau faint o fwyd a gaiff ei daflu yn eu sefydliadau.
Cynnydd ac effaith
Rydym wedi cataleiddio camau gweithredu ym maes gweithgynhyrchu, manwerthu a chartrefi sydd wedi gweld gwastraff bwyd yn y Deyrnas Unedig yn gostwng gan dros 10%.
Mae hynny’n bron i 1 miliwn o dunelli o fwyd wedi’i arbed, a daw buddion defnydd tir yn ei sgil hefyd.
-
Trawsnewid y system bwyd drwy’r Courtauld Commitment
Darganfyddwch sut mae busnesau bwyd a diod yn llwyddo i leihau gwastraff bwyd, nwyon tŷ gwydr, straen dŵr, a lle mae angen inni gynyddu graddfa ein gweithredu.
-
Adroddiad Blynyddol Map Trywydd Dŵr
Mae Adroddiad Mapiau Dŵr 2030 WRAP yn dangos sut y gall busnesau symud y tu hwnt i gydymffurfio wrth reoli dŵr a dod yn arweinwyr mewn stiwardiaeth dŵr.
-
Adroddiad Blynyddol Map Trywydd Lleihau Gwastraff Bwyd
Dysgwch am y cynnydd y mae manwerthwyr, brandiau a chynhyrchwyr bwyd blaenllaw yn ei wneud yn eu cadwyni cyflenwi i gyrraedd targedau lleihau gwastraff bwyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
-
Gwerthu ffrwythau a llysiau heb eu torri’n rhydd
Darganfyddwch sut mae ein hymchwil arloesol ar dynnu deunydd pacio plastig oddi ar ffrwythau a llysiau, newid syml i labeli dyddiadau, a chyngor storio cywir ar gyfer dinasyddion, yn gweithio fel catalydd yn y diwydiant a allai arwain at leihad sylweddol mewn gwastraff bwyd o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig.
Sbarduno newid trawsnewidiol mewn:
Ymunwch â ni i arwain y newid
Gyda’n gilydd, gallwn wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn realiti.
Cysylltu â ni