Trawsnewid tecstilau

Rydym yn trawsnewid y ffordd y caiff tecstilau eu gwneud, eu prynu a’u defnyddio – gan leihau allyriadau, lleihau’r defnydd o ddŵr a lleihau llygredd.

TRAWSNEWID SYSTEM TECSTILAU’R BYD

Mae’r sector tecstilau yn gyfrannwr sylweddol i’r economi fyd-eang. Mae’n rhan o wead cymdeithas, yn darparu bywoliaeth i filiynau o bobl o amgylch y byd.

Ond, yn fyd-eang, mae cynhyrchu a defnyddio tecstilau’n parhau i gynyddu, wedi’i sbarduno gan ein model ‘cymryd, gwneud, defnyddio a gwaredu’ presennol. Mae systemau sy’n sylfaen i’r diwydiant yn defnyddio llawer o adnoddau mwyaf gwerthfawr y byd mewn modd anghynaliadwy, gan ecsbloetio pobl a natur ill dau yn ei sgil.

Mae gan WRAP weledigaeth ar gyfer gwneud pethau’n wahanol.

Rydym yn creu economi gylchol ar gyfer tecstilau er mwyn trawsnewid y ffordd y caiff nwyddau eu prynu, eu defnyddio, a’u hailddefnyddio. Rydym yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn lleihau defnydd dŵr ac yn taclo gwastraff tecstilau, fel rhan o drawsnewid cymdeithasol gyfiawn.

Gan weithio gydag arweinwyr y diwydiant yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang i ddatblygu, rhannu, a chynyddu graddfa arferion a pholisïau newydd, rydym yn herio’r status quo ac yn helpu’r diwydiant gynnal eu busnes yn well.  Ymunwch â ni.

Y problemau

93 biliwn o fetrau ciwbig
Caiff 93 biliwn o fetrau ciwbig eu defnyddio gan y diwydiant tecstilau bob blwyddyn.
336k
o dunelli o ddillad yn cael eu hanfon i dirlenwi neu losgi yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
63%
Rhagwelir y bydd y defnydd byd-eang o ddillad yn codi gan 63% erbyn 2030.
8-10%
Daw 8-10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd o’r diwydiant ffasiwn a thecstilau.

Priority actions for transforming textiles

Camau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer trawsnewid tecstilau

Dylunio cylchol ar gyfer ffasiwn a thecstilau

Dylunio cylchol ar gyfer ffasiwn a thecstilau

Mae WRAP yn gweithio gyda busnesau i roi dillad a thecstilau’r cartref ar y farchnad sy’n cael llai o effaith, drwy eu cynorthwyo i ddylunio nwyddau sy’n wydn, wedi’u gwneud o ddeunyddiau diogel ac effaith isel, ac y gellir eu hail-wneud neu eu hailgylchu ar ddiwedd eu hoes.

Modelau busnes cylchol ar gyfer ffasiwn a thecstilau

Modelau busnes cylchol ar gyfer ffasiwn a thecstilau

Mae WRAP yn cynorthwyo busnesau drwy brosiectau, partneriaethau, ac adnoddau strategol i roi modelau busnes newydd ar waith sydd wedi’u dylunio i ymestyn hyd oes nwyddau ac sy’n galluogi cwmnïau i greu refeniw o ailddefnyddio yn hytrach nag o werthu nwyddau newydd.

Cau’r ddolen ar ddeunyddiau

Cau’r ddolen ar ddeunyddiau

Mae WRAP yn cydweithio â’r diwydiant i wella a chynyddu graddfa seilwaith didoli ac ailgylchu, a chynyddu’r galw am gynnwys eilgylch, gan sicrhau bod mwy o’n dillad a’n tecstilau yn cael eu hailgylchu’n nwyddau tecstil newydd pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes ddefnyddiol.

Sbarduno newid ymddygiad defnyddwyr mewn ffasiwn a thecstilau

Sbarduno newid ymddygiad defnyddwyr mewn ffasiwn a thecstilau

Mae WRAP yn cynnig dirnadaethau a negeseuon gwerthfawr i fusnesau ar sut mae dinasyddion yn prynu, defnyddio, a gwaredu dillad a thecstilau’r cartref, gan eu helpu i ddeall ymddygiad defnyddwyr a chyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid i annog arferion mwy cynaliadwy.

Cefnogi dylunio polisïau tecstilau a’u rhoi ar waith

Cefnogi dylunio polisïau tecstilau a’u rhoi ar waith

Mae WRAP yn darparu tystiolaeth a dirnadaethau i gynorthwyo llunwyr polisïau i ddylunio ymyriadau polisi i leihau effaith amgylcheddol tecstilau. Ar ben hynny, mae WRAP yn cynorthwyo busnesau i baratoi ar gyfer y mesurau polisi hyn a chydymffurfio â nhw unwaith y cânt eu rhoi ar waith.

Mesur ôl-troed amgylcheddol ffasiwn a thecstilau

Mesur ôl-troed amgylcheddol ffasiwn a thecstilau

Mae WRAP yn cynorthwyo busnesau gyda’u hadrodd amgylcheddol drwy fynediad ecsgliwsif i’r Offeryn Ôl-troed, sy’n eu galluogi i fesur effaith gyfansymiol y nwyddau tecstil y maent yn eu gwerthu, olrhain a rhagweld effaith camau cylchol, a mesur cynnydd tuag at dargedau ESG.

Ymunwch â ni i arwain y newid

Gyda’n gilydd, gallwn wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn realiti.

Cysylltu â ni