Atal plastigion problemus

Rydym yn ail ddylunio’r system plastigion, ar hyd y gadwyn werth – gan atal gwastraff a chadw’r deunydd allan o’r amgylchedd.

TRAWSNEWID SYSTEMAU PLASTIG Y BYD

Mae gweithredu byd-eang ar frys yn hanfodol i leihau effaith amgylcheddol deunydd pacio plastig a chreu economi gylchol sydd o fudd i bawb.

Mae’n rhaid inni weithredu’n ddi-oed ac ar y cyd, gan gynnwys cadwyn werth plastigion yn ei chyfanrwydd i fynd i’r afael â niwed ecolegol ac anghydraddoldebau cymdeithasol a achosir gan y system linol bresennol.

Dyna pam mae WRAP yn gweithio gyda mwy na 900 o sefydliadau ledled y byd i ddileu plastigion problemus, cynyddu graddfa’r atebion, a sbarduno newid systemig.

Gyda’n gilydd, rhaid inni greu system gylchol, gan gadw deunyddiau yn yr economi ac allan o’n hamgylchedd naturiol.

Y problemau

1.8 biliwn o dunelli
Daw 1.8 biliwn o dunelli o allyriadau carbon y flwyddyn o gynhyrchu, defnyddio a gwaredu plastig.
> 20 miliwn
Mae > 20 miliwn o weithwyr anffurfiol yn rhan o gasglu ac ailgylchu gwastraff plastig, a’r rhan fwyaf ohonynt yn wynebu amodau gwaith anniogel.
5%
Disgwylir i 5% o gyllideb carbon y byd gael ei wario ar gynhyrchu plastigion yn fyd-eang erbyn 2040.
10%
10% o’r 142 miliwn o dunelli o ddeunydd pacio plastig a gaiff ei gynhyrchu bob blwyddyn sy’n cael ei ailgylchu’n effeithiol. Caiff y gweddill ei anfon i dirlenwi, ei losgi neu ei ollwng yn uniongyrchol i’r amgylchedd, sy’n cynrychioli colled gwerth o rhwng $80 biliwn a $120 biliwn.

v

Camau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer atal plastigion problemus

Dileu plastigion diangen a phroblemus

Dileu plastigion diangen a phroblemus

Mae rhwydwaith y Cytundeb Plastigion yn defnyddio meini prawf cyffredin i ganfod a dileu plastigion diangen a phroblemus mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Hyd yma, mae 11 o Gytundebau wedi dileu 360,000 o dunelli o blastigion o’r fath.

Cynyddu graddfa ailddefnyddio ac ail-lenwi

Cynyddu graddfa ailddefnyddio ac ail-lenwi

Mae systemau ailddefnyddio ac ail-lenwi yn allweddol er mwyn lleihau deunydd pacio plastig untro.

Mae rhwydwaith y Cytundeb Plastigion yn gweithio gydag aelodau i symud o brosiectau peilot i fabwysiadu ar draws y farchnad, gan rannu dirnadaethau i gynyddu graddfa modelau ailddefnyddio ac ail-lenwi effeithiol.

Dylunio ar gyfer gallu ailgylchu

Dylunio ar gyfer gallu ailgylchu

Dylai holl ddeunydd pacio plastig fod yn ailgylchadwy neu’n gompostadwy.

Mae Rhwydwaith y Cytundeb Plastigion wedi cefnogi newidiadau yn y diwydiant, fel dileu lliwiau poteli PET a symleiddio ffrydiau deunyddiau, gan arwain at gynnydd o 23% yn faint o ddeunydd pacio sy’n ailgylchadwy, yn ailddefnyddiadwy neu’n gompostadwy ymysg aelodau’r Cytundebau’n fyd-eang.

Ailgylchu effeithiol

Ailgylchu effeithiol

Mae Rhwydwaith y Cytundeb Plastigion yn codi cyfraddau ailgylchu drwy symud gwastraff plastig oddi wrth safleoedd tirlenwi ac i mewn i’r economi.

Mae mwy na 5 miliwn o dunelli o blastig wedi cael ei ailgylchu, gyda chyfraddau cyfartalog yn cyrraedd 21%, a’r Deyrnas Unedig yn cyflawni 55%.

Ymgorffori cynnwys eilgylch

Ymgorffori cynnwys eilgylch

Mae aelodau’r Cytundeb Plastigion yn lleihau’r plastig crai a ddefnyddir drwy ymgorffori mwy o gynnwys eilgylch. Mae hyn yn lleihau ôl-troed carbon deunydd pacio.

Hyd yma, mae 2.2 miliwn o dunelli o blastig crai wedi’i ddisodli, gyda chynnwys eilgylch cyfartalog o 26% mewn deunydd pacio.

Ymunwch â ni i arwain y newid

Gyda’n gilydd, gallwn wneud Ffordd Gylchol o Fyw yn realiti.

Cysylltu â ni