Gyrfaoedd yn WRAP

Byddwch yn rhan o’r newid.

Ewch i’n porth swyddi

Trawsnewid systemau diffygiol y byd yw ein gwaith bob dydd. Gallech chi wneud hynny hefyd.

Ein huchelgais

Yn WRAP, rydym am newid y byd. Rydym am drawsnewid systemau diffygiol ein planed – gan greu lleihad radical mewn gwastraff ac allyriadau carbon yn ein nwyddau beunyddiol.

I wireddu hyn, rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraethau, ac unigolion ar brosiectau uchelgeisiol ym mhedwar ban byd. Rydym yn sefydliad gwirioneddol ryngwladol – mae ein nwyddau, ein strategaethau a’n mentrau’n cyrraedd pob cornel o’r byd.

Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen aelodau tîm angerddol a brwdfrydig i helpu ymgymryd â’r her. Mae pawb yn WRAP yn chwarae eu rhan – ein pobl yw ein hased fwyaf gwerthfawr.

Barod i ymuno â ni? Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo'ch oedran, hil, rhyw, niwroamrywiaeth, gallu, credoau, rhywioldeb neu ddewisiadau personol.

Achrediadau

  • Cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol: Fel cyflogwr cyflog byw gwirioneddol, rydym yn ymrwymedig i dalu ein staff yn ôl costau byw.
  • Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth: Rydyn ni’n rif 40 ar y rhestr o Fuddsoddwyr mewn Amrywiaeth gorau’r Deyrnas Unedig; mae cael pobl o wahanol gefndiroedd yn rhan annatod o ddod ag amrywiaeth o syniadau a phrofiadau i’r gwaith a wnawn.
  • Arweinydd Hyderus o ran Anabledd: Ar ôl dod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn 2022, rydym wedi parhau â’n hymdrechion i recriwtio a chadw pobl anabl, gan ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd yn 2023.
Investors in Diversity Awards logoDisability Confident logoNational Centre for Diversity No.40 2023 Most Inclusive Places to Work logo

Pam gweithio yn WRAP?

Mae trwsio systemau diffygiol y byd yn glamp o her. Dyna pam rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein staff yn cael pecyn buddion cyflawn a hael.

  • Eich ffordd o fyw

    Fel sefydliad sy’n ystyriol o deuluoedd, rydym yn cynnig gweithio’n hyblyg, absenoldeb mamolaeth uwch, absenoldeb rhiant a mabwysiadu a rennir (12 wythnos o dâl llawn a 12 wythnos o hanner tâl), yn ogystal ag absenoldeb tadolaeth uwch (4 wythnos o dâl llawn). Gallwch hefyd brynu mwy o wyliau blynyddol, cael mynediad at lwyfan buddion staff, a hyd yn oed prynu car trydan drwy eich cyflog misol.

  • Eich iechyd a llesiant

    Rydym yn gwneud popeth posibl i’ch helpu i deimlo’n wych, yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae gan bob gweithiwr yn WRAP fynediad at raglen cymorth staff. Rydym hefyd yn cynnig opsiynau yswiriant meddygol a deintyddol preifat, arbedion cost ar ystafelloedd ffitrwydd, y cynllun Cycle to Work, a thanysgrifiad i Headspace.

  • Eich dyfodol

    Mae ein cynllun pensiwn hael yn talu 10% o’ch tâl pensiynadwy gros (cyn belled â’ch bod yn talu 3% neu fwy). Rydym hefyd yn cynnig yswiriant bywyd am ddim, a’r opsiwn i ymuno â chynllun cynilo yn y gweithle.

  • Eich datblygiad

    Rydym yn credu mewn dysgu gydol oes, felly cynigiwn lu o gyfleoedd datblygu – gan gynnwys mynediad i LinkedIn Learning, rhaglen fentora a fframwaith llwybr gyrfa, yn ogystal â thanysgrifiad aelodaeth broffesiynol. Mewn gwirionedd, mae 22% o weithlu WRAP wedi cael dyrchafiad mewnol yn ystod y 12 mis diwethaf.

  • Gweithio hybrid a hyblyg

    Yn WRAP, rydym yn gwerthfawrogi hyblygrwydd. Byddwch yn gallu gweithio o gartref a dod i mewn i’r swyddfa i gydweithio â’ch timau yn ôl y galw. Rydym yn cynnig amser fflecsi gydag oriau craidd y gellir eu haddasu, a dydyn ni ddim yn credu mewn diwylliant o bresenoliaeth – yr hyn sy’n bwysig yw’r effaith rydych chi’n ei chael.

Ein diwylliant

Equality, diversity and inclusion are integral to our working culture at WRAP. 

Our decisions and actions are guided by the FREDIE principles of Fairness, Respect, Equity, Diversity, Inclusion and Engagement, alongside our cultural aspirations to be more accountable, agile, bold, commercial, global and impact focussed – but we also understand it’s a journey and not a destination.

We welcome individuals who stand out and bring their unique strengths and aim to foster an environment where you can bring your whole selves to work every day.

Grwpiau Cysylltiad

Mae gweithle WRAP yn gartref i nifer o grwpiau cysylltiad. Maent yn helpu i greu teimlad o gymuned, yn cynnig rhwydweithiau cefnogaeth ac yn meithrin cyfeillgarwch drwy brofiadau a hunaniaethau cyffredin a rennir. Dyma rai o blith ein rhestr helaeth:

  • Rhwydwaith FREDIE: Enillodd ein rhwydwaith gweithwyr yn y FREDIE Awards 2022, ac mae’n mynd ati’n weithredol i wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws bopeth a wnawn.
  • Yr Early Careers Network: Sianel ar Teams ar gyfer unrhyw un yn gynnar yn eu gyrfa neu sydd wedi newid llwybr gyrfa’n ddiweddar i gysylltu a chefnogi ei gilydd.
  • Caffi Menopos: sgwrs anffurfiol gyda chydweithwyr yw’r ‘caffi’ hwn, cyfle i rannu eich profiadau, unrhyw tips sydd gennych ac i holi unrhyw gwestiynau ynghylch y menopos mewn awyrgylch cyfeillgar a diogel.
  • Grŵp Cefnogaeth Iechyd: lle i gydweithwyr gael trafod byw gyda salwch ac anableddau a chefnogi ei gilydd yn y gweithle a thu allan i WRAP. 
Mwy am ein diwylliant

Swyddi gwag

Barod i’n helpu ni drwsio systemau diffygiol y byd?

Ewch i’n porth swyddi