Effaith

Mae WRAP yn sbarduno Ffordd Gylchol o Fyw drwy bedwar maes allweddol: sbarduno’r economi gylchol, sicrhau gwytnwch bwyd yn y dyfodol, atal plastigion problemus a thrawsnewid tecstilau.

Yn ystod yr 20+ mlynedd ddiwethaf, rydym wedi creu newid ystyrlon mewn mwy na 30 o wledydd.

Yn y Deyrnas Unedig yn unig, rydym wedi uno bron i 700 o sefydliadau.

Mae gennym nifer fawr o gytundebau a phartneriaethau rhyngwladol, ac rydym yn gweithio gyda llywodraethau a sefydliadau llywodraethol ledled y byd.

Rydym yn adnabyddus am gyflawni gwerth ac effaith i’n harianwyr gydag enillion sylweddol ar fuddsoddiadau a wneir gyda ni.

Mae gennym hefyd hanes da o rymuso dinasyddion i weithredu – gan greu newid ymddygiad gwirioneddol a chynaliadwy yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, gyda hwy, ac ar eu cyfer.

Diogelu bwyd ar gyfer y dyfodol

Rydym yn gweithio o’r fferm i’r fforc, gan arwain y gad wrth fynd i’r afael â cholled a gwastraff bwyd, lleihau allyriadau NTG a defnydd dŵr. Mae WRAP yn addasu ac yn cynyddu graddfa ei gytundebau gwirfoddol ar draws diwydiannau – fel y Courtauld Commitment 2030 – yn rhyngwladol, i helpu trawsnewid y system fwyd fyd-eang.

Atal plastigion problemus

Mae gan WRAP hanes profedig o ymdrin â llygredd plastig yn ddi-oed trwy gyfrwng Cytundebau Plastigion. Yn 2018, lansiodd WRAP a’r Ellen MacArthur Foundation yr UK Plastics Pact. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae dwsin o Gytundebau Plastigion mewn 19 o wledydd yn ffurfio rhwydwaith byd-eang gyda hanes profedig o wneud cynnydd tuag at ddileu gwastraff a llygredd plastig. Mae WRAP yn arwain ar roi cymorth gweithredol i’r holl Gytundebau Plastigion yn rhyngwladol.

Trawsnewid tecstilau

I gwrdd â thargedau hinsawdd, dŵr a gwastraff byd-eang, rydym yn gweithio i drawsnewid y ffordd y caiff dillad a thecstilau eu cynhyrchu, eu defnyddio a’u gwaredu. Mae cytundeb gwirfoddol WRAP, Textiles 2030, yn uno’r sector o blaid targedau mentrus sy’n seiliedig ar wyddoniaeth. Mae ein hymchwil, canfyddiadau a mentrau yn helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i decstilau.

Join us in leading the change

We believe in the power of working together to create long lasting change.

Work with us as we lead the way to building a more sustainable future.

Cysylltu â ni