Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

Byd ffyniannus lle nad yw newid hinsawdd yn broblem mwyach

Sefydliad anllywodraethol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd yw WRAP, sy’n gweithio’n fyd-eang ar fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng hinsawdd a rhoi dyfodol cynaliadwy i’r blaned. Fe’n sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig yn 2000; rydym yn gweithio mewn 40+ o wledydd erbyn hyn.

Ni ddylem wastraffu ein hadnoddau naturiol. Dylid ailddefnyddio ac ailgylchu popeth a ddefnyddiwn.

Gall WRAP eich helpu i warchod y blaned drwy newid y ffordd caiff pethau eu cynhyrchu, eu defnyddio a’u gwaredu.

Dysgwch sut mae WRAP Cymru yn cael effaith yng Nghymru:

Caffael yn y Sector Cyhoeddus

Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario oddeutu £6 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae cyfle sylweddol i gyrff cyhoeddus ddefnyddio caffael i gyflawni canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol.

Mae WRAP Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu strategaethau a’u gweithgareddau caffael.

Darganfod mwy

Y Gronfa Economi Gylchol

Mae cynhyrchu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch ac ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau yn ganolog i wireddu economi gylchol. Mae’r Gronfa Economi Gylchol sy’n werth £6.5miliwn – un o fentrau Llywodraeth Cymru, a ddarperir gan WRAP Cymru – yn helpu i gyflymu newid Cymru tuag at economi gylchol.

Darganfod mwy

Y Rhaglen Newid Gydweithredol Cymru

Mae’r Rhaglen Newid Gydweithredol yn darparu cymorth i helpu awdurdodau lleol Cymru ddatblygu a chyflawni cynlluniau manwl er mwyn cyflawni strategaeth wastraff Cymru, Mwy nag ailgylchu.

Caiff awdurdodau lleol wneud cais i WRAP Cymru am amrywiaeth o gymorth strategol a thechnegol a chyngor ar gyfathrebu; ynghylch newidiadau gwasanaeth, er enghraifft.

Darganfod mwy

Newid Ymddygiad Dinasyddion

Mae gan WRAP dîm o arbenigwyr hynod alluog, gyda phrofiad o gynllunio, darparu a mesur atebion ac ymyraethau newid ymddygiad effeithiol.

Mae ymgyrchoedd WRAP ar gyfer dinasyddion yn grymuso unigolion i weithredu, drwy rannu negeseuon i ysbrydoli ynghyd â chyngor ymarferol. Un ymgyrch o’r fath yw Ailgylchu Nawr, sy’n cynnwys ymgyrch ailgylchu cenedlaethol Cymru, Cymru yn Ailgylchu.

Darganfod mwy

 

Lle mae WRAP yn gweithio

Lle mae WRAP yn gweithio

Mae WRAP yn gweithio ar draws chwe chyfandir ar wastraff bwyd, deunydd pacio plastig, dillad a thecstilau, a chasgliadau ac ailgylchu.

Ewch i www.wrap.org.uk i ddysgu mwy
Gwasanaethau WRAP

Gwasanaethau WRAP

Mae arbenigedd WRAP yn ymwneud â chytundebau gwirfoddol gan fusnesau, newid ymddygiad dinasyddion, cymorth technegol, cyllid ar gyfer sefydliadau drwy reoli cronfeydd, a gwaith polisi a dirnadaethau.

Ewch i www.wrap.org.uk i ddysgu mwy