Telerau ac Amodau

Gwefan: Telerau ac Amodau

O ddefnyddio ac ymweld â’r wefan hon, rydych yn nodi eich caniatâd i’r Telerau ac Amodau hyn. Os nad ydych yn cytuno i'r Telerau ac Amodau hyn, peidiwch â defnyddio'r wefan na lawrlwytho a defnyddio unrhyw ddeunyddiau o'r wefan.

Mae'r Telerau ac Amodau hyn hefyd yn cynnwys Ymwadiad Ebost WRAP. 

1. Telerau Cymwys

1.1 Mae’r wefan hon (y “Wefan”) yn eiddo i’r Waste and Resources Action Programme (“WRAP”), ac mae’n cael ei gweithredu ganddo; mae’r sefydliad yn elusen gofrestredig yn y DU rhif 1159512 gyda’i swyddfa gofrestredig yn Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

1.2 Mae defnyddio'r Wefan a lawrlwytho a defnyddio unrhyw frandio a nodau masnach sydd ar gael i'w lawrlwytho o Adnoddau WRAP https://wrap.org.uk/cy/adnoddau (y “Brandio”) yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym yn syth pan ddefnyddiwch y Wefan am y tro cyntaf. Mae WRAP yn cadw'r hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy bostio newidiadau ar-lein.

1.3 Chi sy'n gyfrifol am adolygu'r wybodaeth a bostiwyd ar y Wefan yn rheolaidd i gael hysbysiad amserol o unrhyw newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'r Wefan ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn fel y'u haddaswyd gan y newidiadau a bostiwyd.

1.4 Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau ac Amodau hyn a/neu delerau penodol sy'n ymddangos mewn man arall ar y Wefan sy'n ymwneud â deunydd penodol, yna'r olaf fydd drechaf. 

2. Defnyddio Deunyddiau a Brandio

2.1 Oni nodir yn wahanol, mae cynnwys y Wefan, gan gynnwys yr enwau, delweddau a logos sy’n nodi WRAP a’i gynhyrchion a’i wasanaethau, a’r Brandio, yn eiddo i WRAP ac wedi’u diogelu, heb gyfyngiad, fel gweithiau hawlfraint, a/neu nodau masnach cofrestredig ac anghofrestredig, a dim ond yn unol â 2.3 isod y gellir eu defnyddio.

2.2 Rhaid i chi, a'r busnes/sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli, gofrestru gyda WRAP a chreu cyfrif er mwyn defnyddio rhai o wasanaethau WRAP gan gynnwys lawrlwytho a defnyddio'r Brandio. Gallwch greu eich cyfrif WRAP eich hun a/neu gyfrif ar gyfer eich busnes/sefydliad yn www.wrap.org.uk/cy/defnyddiwr/cofrestru a'i reoli trwy'r proffil defnyddiwr sydd ar gael yn https://accounts.wrap.org.uk/. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw eich manylion a manylion eich busnes/sefydliad yn gyfredol ar y proffil defnyddiwr. Yn y Telerau ac Amodau hyn, bydd cyfeiriadau atoch 'chi' yn cyfeirio at y defnyddiwr unigol yn ogystal â'r busnes/sefydliad a gynrychiolir gan y defnyddiwr unigol neu sy'n ddefnyddiwr cofrestredig ei hun.

2.3 Yn amodol bob amser ar 1.4, gellir copïo neu lawrlwytho deunydd a gynhyrchwyd gan WRAP sydd ar y Wefan (er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw hyn yn cynnwys deunydd ar unrhyw wefan trydydd parti y rhoddir dolen ar ei chyfer) a’r Brandio at eich defnydd eich hun yn y Deyrnas Unedig ar yr amod (i) bod yn rhaid i bob defnydd o Frandio gyd-fynd yn union â’r canllawiau brand perthnasol, sydd ar gael i’w lawrlwytho o Lyfrgell Adnoddau WRAP https://wrap.org.uk/cy/adnoddau yn ôl y diweddariadau a wneir iddynt o bryd i’w gilydd, a (ii) ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig blaenorol WRAP ac yn cydymffurfio’n llawn ag unrhyw delerau y gall WRAP ofyn amdanynt, ni chewch wneud y canlynol:

2.3.1 cynnal unrhyw ddeunydd neu Frandio neu amrywiad ohono ar unrhyw wefan; neu

2.3.2 addasu, newid neu greu gwaith deilliadol o unrhyw ddeunydd neu Frandio; neu

2.3.3 defnyddio'r deunydd neu'r Brandio mewn unrhyw fodd masnachol gan gynnwys ymgorffori unrhyw Frandio WRAP ar unrhyw nwyddau neu eitemau hyrwyddo.

2.4 Dim ond deiliad cyfrif WRAP sy’n cael lawrlwytho'r Brandio.

2.5 Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn caniatáu defnyddio'r deunyddiau a'r Brandio yn y Deyrnas Unedig yn unig. Os dymunwch ddefnyddio’r deunyddiau neu’r Brandio at ddibenion eraill neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â WRAP i drefnu trwydded benodol i’w defnyddio.

2.6 Os byddwch yn lawrlwytho meddalwedd o'r Wefan, bydd y feddalwedd gan gynnwys unrhyw ffeiliau, delweddau a ymgorfforir yn y feddalwedd neu a gynhyrchir gan y feddalwedd a'r data sy'n cyd-fynd â'r feddalwedd (gyda'i gilydd, y "Meddalwedd") yn destun trwydded benodol i'w rhoi i chi gan WRAP. Nid yw WRAP yn trosglwyddo teitl i'r Meddalwedd i chi. Bydd WRAP yn cadw teitl llawn a chyflawn i'r Meddalwedd a'r holl hawliau eiddo deallusol sydd ynddo. Ni chewch ailddosbarthu, gwerthu, dadgrynhoi, peiriannu o chwith na dadosod y Feddalwedd. 

3. Atebolrwydd

3.1 Nid yw WRAP yn gwarantu y bydd y Wefan yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y Wefan neu'r gweinydd sy'n ei gwneud ar gael yn rhydd rhag firysau neu fygiau.

3.2 Mae'r Wefan a'r wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau sy'n ymwneud â WRAP, ei gynhyrchion a'i wasanaethau (neu â chynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti), yn cael eu darparu "FEL Y MAE" ac ar sail "FEL Y BO AR GAEL" heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed yn ddatganedig neu'n ymhlyg.

3.3 Er bod WRAP yn gwneud pob ymdrech i warantu cywirdeb y wybodaeth a gynhwysir o fewn y Wefan, nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anghywirdeb ac mae ymwelwyr â'r Wefan sy'n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.

3.4 Nid yw WRAP yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y rhoddir dolenni ar eu cyfer ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi'r farn a fynegir ynddynt. Ni ddylid cymryd bod rhoi dolenni iddynt yn ardystiad o unrhyw fath.

3.5 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn gweithredu nac yn cael ei ddehongli er mwyn eithrio neu gyfyngu ar:

3.5.1 unrhyw warant neu amod a awgrymir gan statud os byddwch yn delio fel “defnyddiwr” fel y'i diffinnir gan adran 2 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mewn achos o'r fath nid yw'r telerau ac amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol; neu

3.5.2 atebolrwydd WRAP am farwolaeth neu anaf personol a achosir oherwydd esgeulustod WRAP neu ei weision, gweithwyr neu asiantau.  

3.6 Ac eithrio fel y nodir yn 3.5, ni fydd WRAP mewn unrhyw achos yn atebol am unrhyw iawndal gan gynnwys, heb gyfyngiad, iawndal anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw iawndal o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu golli defnydd, data, neu elw, boed mewn gweithred o gontract, esgeulustod neu weithred gamweddus arall, sy’n deillio o ddefnyddio’r Wefan neu mewn cysylltiad â defnyddio’r Wefan.

3.7 Ni fydd cyfanswm atebolrwydd WRAP i chi o gwbl am yr holl iawndal, colledion ac achosion gweithredu (boed mewn contract ai peidio (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, esgeulustod)) yn fwy na'r costau a ysgwyddwyd gennych chi, os o gwbl, am gael mynediad i'r Wefan. 

4. Eich Cyfraniadau

4.1 Pan eich gwahoddir i gyflwyno unrhyw gyfraniad trwy’r Wefan (gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw destun, graffeg, fideo neu sain) mae’n ofynnol i chi drwy gyfrwng cyflwyniad o’r fath roi hawl a thrwydded barhaus, ddi-freindal, anghyfyngedig, is-drwyddedadwy i WRAP i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, newid, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliadol o waith o’r fath, ei ddosbarthu, ei berfformio, ac arfer yr holl waith hawlfraint o ran unrhyw waith o’r fath yn fyd-eang a/neu ei ymgorffori mewn gweithiau eraill a wyddys amdanynt yn awr neu a ddatblygir yn nes ymlaen am holl gyfnod unrhyw hawliau a allai fodoli mewn cynnwys o’r fath, yn unol â chyfyngiadau preifatrwydd a nodir ym Mholisi Preifatrwydd WRAP. Os nad ydych am roi hawliau o’r fath i WRAP, awgrymir nad ydych yn cyflwyno’ch cyfraniad drwy’r Wefan.

4.2 Trwy gyflwyno'ch cyfraniad drwy'r Wefan, rydych hefyd yn:

4.2.1 gwarantu mai eich gwaith gwreiddiol chi yw cyfraniad o'r fath a bod gennych yr hawl i'w wneud ar gael i WRAP at yr holl ddibenion a nodir uchod; ac yn

4.2.2 indemnio WRAP yn erbyn yr holl ffioedd cyfreithiol, iawndal a threuliau eraill y gall WRAP fynd iddynt o ganlyniad i dorri'r warant uchod; ac yn

4.2.3 cytuno i ildio unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad at ddibenion ei gyflwyno a'i gyhoeddi ar y Wefan a'r dibenion eraill a nodir uchod; ac yn  

4.2.4 cydnabod a chytuno y gall defnyddwyr ei gopïo neu ei lawrlwytho yn unol â 2.3. 

5. Defnyddio'r Wefan

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu nac yn atal defnydd a mwynhad o’r Wefan gan unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiad neu ataliad o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson a throsglwyddo cynnwys anweddus neu dramgwyddus neu amharu ar lif arferol deialog o fewn y Wefan. 

6. Terfynu Hawliau Defnyddio

6.1 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i'ch defnydd o'r Wefan a'ch mynediad i'r deunyddiau a'r Brandio ar y Wefan a'ch defnydd ohonynt oni bai a hyd nes y bydd WRAP yn eich hysbysu bod eich mynediad wedi'i derfynu a bod eich cyfrif wedi'i gau. Mae WRAP yn cadw’r hawl i gau eich cyfrif a rhwystro eich mynediad i’r Wefan a’r deunyddiau a Brandio ar y Wefan ar unrhyw adeg yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, ond mae’n debygol o wneud hynny dim ond os yw’n ystyried eich bod wedi methu’n sylweddol â chydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn.

6.2 Ar ôl cau eich cyfrif WRAP rhaid i chi roi’r gorau ar unwaith i ddefnyddio’r holl ddeunyddiau a Brandio a gafwyd o’r Wefan a phob copi ohono, os yw WRAP yn gofyn i chi wneud hynny. 

7. Toradwyedd

Os penderfynir bod unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy oherwydd cyfreithiau unrhyw wladwriaeth neu wlad y bwriedir i’r Telerau ac Amodau hyn fod yn effeithiol ynddynt, yna i’r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth y mae’r telerau neu’r amodau hynny’n anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, caiff ei dorri a’i ddileu o’r Telerau ac Amodau hyn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn parhau i fod mewn grym yn llawn ac yn parhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy. 

8. Awdurdodaeth

8.1 Mae’r Wefan yn cael ei reoli a’i weithredu gan WRAP o’i swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw WRAP yn gwneud unrhyw sylw bod deunyddiau ar y Wefan yn briodol neu ar gael i'w defnyddio mewn lleoliadau eraill. Mae'r rhai sy'n dewis cyrchu'r Wefan o leoliadau eraill yn gwneud hynny ar eu liwt eu hunain ac yn gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol, os ac i'r graddau y mae cyfreithiau lleol yn berthnasol.

8.2 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd anghydfodau sy’n codi o’r Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig. 

9. Ymwadiad Ebost 

9.1 Mae cynnwys unrhyw ebost (gan gynnwys atodiadau) a anfonir gan WRAP yn gyfrinachol ac yn destun hawlfraint. Mae unrhyw ebost o'r fath wedi'i fwriadu at ddefnydd yr unigolyn neu'r endid y mae wedi'i gyfeirio ato yn unig. Os ydych wedi derbyn ebost gan WRAP mewn camgymeriad, cysylltwch â’r anfonwr ar unwaith drwy ddychwelyd yr ebost neu ffonio 12595819900 a gofyn am gael siarad â’r anfonwr, ac yna ei ddileu (gan gynnwys unrhyw atodiadau) o’ch system. Os nad chi yw derbynnydd bwriadedig yr ebost, mae unrhyw ddatgeliad, copïo, dosbarthu neu ddefnyddio ei gynnwys wedi ei wahardd yn llym.

 

9.2 Mae WRAP yn defnyddio technoleg gwrth-feirws i wirio pob neges sy’n mynd allan ond ni all warantu na fydd firysau ac nid yw WRAP yn derbyn atebolrwydd am unrhyw firws a gyflwynir drwy unrhyw ebost neu unrhyw atodiad ac fe’ch cynghorir i ddefnyddio meddalwedd gwirio firysau priodol a chyfredol.

 

9.3 Ni all WRAP dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb na chyflawnder cynnwys unrhyw ebost gan ei fod wedi'i drosglwyddo dros rwydwaith cyhoeddus ac nid yw cyfathrebiadau’r Rhyngrwyd yn ddiogel. Os oes angen dilysu, gofynnwch am gopi caled.

 

9.4 Ac eithrio pan fydd yr ebost yn cael ei anfon fel rhan o’i fusnes arferol, barn yr anfonwr unigol yw’r safbwyntiau a’r farn a fynegir mewn unrhyw neges ebost ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn a safbwyntiau WRAP.

 

9.5 Mae WRAP yn cadw’r hawl i fonitro negeseuon ebost sy’n dod i mewn ac yn mynd allan yn unol â Rheoliadau Telathrebu (Arfer Busnes Cyfreithlon) (Rhyng-gipio Cyfathrebiadau) 2000 a/neu at ddibenion rheoli ansawdd a/neu ddibenion hyfforddi.

 

9.6 Anfonir ebyst marchnata ac ebyst cyfathrebu eraill at y derbynnydd ar gais, neu mewn ymateb i, y diddordeb a fynegwyd gan y derbynnydd a fwriedir ei gyrraedd yng ngweithgareddau WRAP. Mae WRAP yn dymuno cadw eich gwybodaeth cysylltu at ddiben cysylltu â chi yn y dyfodol ynghylch gweithgareddau a nodau WRAP. Os nad ydych yn dymuno i’ch gwybodaeth gyswllt gael ei chadw, gallwch roi gwybod i WRAP drwy anfon ebost at [email protected] gyda'ch cais penodol i optio allan o gysylltiadau o'r fath. 

Trade marks


Nodau masnach


Mae nodau masnach cofrestredig WRAP wedi'u cofrestru yn enw'r Waste and Resources Action Programme.

Mae WRAP yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ddyfais cylch a chalon yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Canada a Seland Newydd.

Mae’r ddyfais cylch a chalon, ynghyd â’r gair “recycle”  yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ddyfais cylch a chalon, ynghyd â’r gair “recycle now” yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ddyfais cylch LOVE FOOD hate waste yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Canada a Seland Newydd; cofrestriad ar y gweill yn Tsieina.

Mae LOVE FOOD HATE WASTE yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ddyfais cylch a chalon, ynghyd â’r gair “recycle now” yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, sydd wedi’i gofrestru yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Mae dyfais cylch a chalon Cymru yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn y Deyrnas Unedig.

Mae Recycle the possibilities are endless yn nod masnach cofrestredig y Waste and Resources Action Programme, wedi’i gofrestru yn y Deyrnas Unedig.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth nid yw'r uchod yn rhestr hollgynhwysfawr o nodau masnach a gofrestrwyd gan WRAP.

Mae WRAP hefyd yn defnyddio nifer o nodau fel nodau masnach anghofrestredig, gan gynnwys (heb gyfyngiad) ailgylchu nawr, wythnos ailgylchu, clir ar blastigion, gwastraffu bwyd: mae heibio’i ddyddiad, Guardians of Grub.

Mae'r logo Plastics Pact yn nod masnach cofrestredig gan Sefydliad Ellen MacArthur, a ddefnyddir dan drwydded yn y Deyrnas Unedig gan WRAP. 

Read our Privacy Policy