Dyma gyflwyno Adroddiad Blynyddol WRAP 2023-24, sy’n cynnig cipolwg ar ein blaenoriaethau, ein nodau a’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’n dangos sut mae ein gwaith yn sbarduno ac yn cyfrannu at:
- Cefnogi trawsnewid i sero net drwy gynyddu effeithlonrwydd adnoddau ac economi sy’n fwy cylchol.
- Helpu i greu system fwyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy haneru gwastraff bwyd, haneru allyriadau nwyon tŷ gwydr, a diogelu ffynonellau dŵr hollbwysig.
- Cefnogi trawsnewid yr economi blastigion fyd-eang i ddileu llygredd plastig.
- Hyrwyddo cylcholdeb ar draws y diwydiant dillad a thecstilau i leihau ei effaith ar yr hinsawdd.
"Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut mae WRAP yn defnyddio pŵer gweithio ar y cyd i sbarduno newid. Mae WRAP yn pweru hyd at ‘10 gwaith’ ein heffaith ac yn cynyddu graddfa Ffordd Gylchol o Fyw yn ehangach ac yn gyflymach."
Pori ein meysydd ffocws
-
Diogelu bwyd ar gyfer y dyfodol
Rydym yn newid y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta – gan leihau’r costau i’r amgylchedd, i fusnesau ac i bobl.
-
Atal plastigion problemus
Rydym yn ail ddylunio system plastigion, ar hyd y gadwyn werth – gan atal gwastraff a chadw’r deunydd allan o’r amgylchedd.
-
Trawsnewid tecstilau
Rydym yn trawsnewid y ffordd y caiff tecstilau eu gwneud, eu prynu a’u defnyddio – gan leihau allyriadau, lleihau’r defnydd o ddŵr a lleihau llygredd.
-
Sbarduno’r economi gylchol
Rydym yn arwain y byd oddi wrth ddiwylliant ‘cymryd-gwneud-gwaredu’ i ddull ‘dylunio-gwneud-ailddefnyddio’ – gan arwain at leihad radical mewn gwastraff ac allyriadau carbon o nwyddau beunyddiol.
Ymunwch â ni i daclo newid hinsawdd
Cofrestrwch i fod yn rhan o un o’n cytundebau gwirfoddol.
Cefnogwch ein hymchwil i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gryfach fyth.
Gweithiwch ar brosiect ar y cyd i gyflawni newid ymddygiad.
Ymunwch ag un o’n hymgyrchoedd dinasyddion.
Cyfrannwch i hybu ein nodau elusennol.