Reolwr Cyflawni - Cymorth Technegol

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb, 27 Ebrill 2022

Cyflog: oddeutu £49k

 

Ydych chi’n angerddol dros greu economi mwy cynaliadwy sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon? A hoffech chi arwain a datblygu tîm i gyflawni effaith wirioneddol? A allwch chi ganfod cyfleoedd newydd ar gyfer cael effaith a chreu incwm?

Mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau, a chymunedau i gyflawni atebion ymarferol i wella effeithlonrwydd adnoddau ledled y byd a’n cenhadaeth yw creu byd diwastraff.

Cymru yw’r 3edd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac mae arnom eisiau cyrraedd rhif 1! Ond rhan o’r darlun yn unig yw ailgylchu. Mae darganfod ffyrdd o ddefnyddio deunyddiau eilgylch a sbarduno’r galw am nwyddau mwy cynaliadwy llawn mor bwysig. Gallwch ddysgu mwy am un o’r prosiectau a gyflawnwyd gan y tîm cymorth technegol yma.

Rydym yn chwilio am Reolwr Cyflawni i ymuno â’n tîm Cymorth Technegol yng Nghymru. Chi fydd yn gyfrifol am arwain rhaglen waith gyda busnesau a’r sector cyhoeddus, ynghyd â thîm o reolwyr cyfrifon profiadol. Byddwch hefyd yn canfod a chytuno ar gamau gweithredu sy’n cyfrannu at dargedau WRAP, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.

Mae arnom angen rhywun sy’n mwynhau ymgysylltu â rhanddeiliaid a dylanwadu arnynt i gyflawni canlyniadau llwyddiannus ac sy’n gallu dangos hanes cadarn o reoli pobl a chyflawni rhaglenni. Byddai profiad o gynnal mentrau cymorth busnes o fantais.

Wrth ymgeisio am y swydd, bydd gofyn ichi ddisgrifio sut rydych yn bodloni’r hanfodion swydd canlynol:

  • Profiad o arweinyddiaeth strategol a gweithredol, gyda hanes da o gyflawni’n llwyddiannus yn erbyn targedau canlyniadau.
  • Gallu profedig i ddatblygu timau, arwain eraill a’u symbylu; hunanymwybyddiaeth a sgiliau rhyngbersonol cadarn.
  • Profiad profadwy o feithrin perthynas a phartneriaethau effeithiol gyda busnesau, llywodraethau a rhanddeiliaid mawr eraill.
  • Gwybodaeth eang ynghylch effeithlonrwydd adnoddau a materion amgylcheddol drwy brofiad ar lefel gradd mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad yn y diwydiant.

Efallai y byddwch yn falch o glywed ein bod wedi symud i drefn gweithio hybrid yma yn WRAP. Er bod y rôl hon wedi’i lleoli’n gytundebol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, mewn gwirionedd, byddwch yn gallu gweithio o gartref, gyda’r amod bod angen ichi ddod i’r swyddfa i gydweithio gyda’ch timau yn ôl y galw. Bydd gennych chi, eich rheolwr a’ch timau’r rhyddid i benderfynu pan fydd angen gwneud hyn, ond pan fydd wedi’i gytuno, bydd yn bwysig eich bod yn dod i’r swyddfa. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gellir trafod hyn yn fanylach.

Ynglŷn â WRAP

Mae’r ffordd yr ydym yn byw heddiw yn niweidio ein planed. Mae’n ffaith.

Mae’r byd yn defnyddio gwerth 1.7 planed o adnoddau bob blwyddyn ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld cynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG), dirywiad bioamrywiaeth, a’r blaned yn cael ei llygru. Mae rhai o’r newidiadau’n ddi-droi’n-ôl yn barod.

Ond nid yw’n rhy hwyr i helpu a gwneud gwahaniaeth i achub y byd, a dyna’n union yr ydym yn ei wneud yn WRAP.

Elusen wedi’i dylunio i gyflawni newid ydym ni. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a phobl ym mhedwar ban byd yn ein hymgais i greu byd ble caiff adnoddau eu defnyddio’n gynaliadwy.

O’r bwyd yr ydym yn ei fwyta, i’r dillad yr ydym yn eu gwisgo a’r nwyddau’r ydym yn eu prynu. Rydym oll yn defnyddio adnoddau’r blaned bob dydd – heb feddwl na chanlyniad yn aml iawn.

Os ymunwch â ni yn WRAP – ac rydym ni’n credu y dylech – byddwch yn ein helpu i ailddyfeisio, ailfeddwl ac ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl o gynhyrchu i ddefnyddio a thu hwnt. Boed hynny’n golygu mynd i’r afael â dylunio cynnyrch cynaliadwy, lleihau gwastraff, annog ailddefnyddio neu eirioli dros ailgylchu ar draws y sectorau bwyd a diod, deunyddiau pacio plastig, dillad a thecstilau a chasgliadau ac ailgylchu.

Gallwch ein helpu ni oll i wneud yn well.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ein credoau yw: dylid dathlu amrywiaeth, cydraddoldeb yw ein meddylfryd, a chynhwysiant yw’r norm.

Rydym ar siwrne i fod yn sefydliad sy’n meithrin cyfoeth safbwyntiau, profiadau bywyd a galluoedd gwahanol. Sefydliad sy’n edrych y tu hwnt i’w ffiniau ei hun ac sy’n ffynnu wrth adael tir cyfforddus.

Ein pobl yw’r hyn sy’n gwneud WRAP yn unigryw. Felly, os penderfynwch ymuno â ni i achub y blaned, rydym yn ymrwymo i:

  • werthfawrogi gwahaniaeth a chreu amgylchedd cynhwysol ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, ble mae pawb yn teimlo’n gyfforddus wrth fod yn nhw eu hunain.
  • ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn sy’n ymwneud â chi, yn cynnwys ein harferion recriwtio, dewis a denu. Pe byddech yn ymuno â WRAP, mae hyn yn parhau drwy dâl a gwobrwyo, cyfleoedd i ddatblygu a datblygu gyrfa.

Hoffech chi ddarganfod mwy? Cliciwch yma.