Cymru yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. Ymgyrch Hydref 2025

Paratowch ar gyfer ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha.' yr hydref: 22 Medi – 19 Hydref 2025

Yn lansio ddydd Llun 22 Medi, i gyd-fynd ag Wythnos Ailgylchu, mae ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha.' Hydref 2025 yn llawn asedau a gweithgareddau deniadol sy'n manteisio ar y teimlad 'dechreuad newydd' hwnnw – pan fydd arferion yn dychwelyd ar ôl yr haf, nodau iechyd yn cael eu hailosod, a phobl yn fwy agored i newid.

Ymgyrch 'Bydd Wych. Ailgylcha.' yw’r ymdrech gyfunol fwyaf erioed yng Nghymru i roi hwb i Gymru i safle Rhif 1 y byd am ailgylchu a braenaru’r tir ar gyfer dyfodol diwastraff. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar leihau gwastraff bwyd drwy annog pobl ledled Cymru i fanteisio i’r eithaf ar y bwyd maen nhw'n ei brynu ac ailgylchu beth bynnag na ellir ei fwyta – gartref, yn y gwaith, neu allan o amgylch y fro.

Ymunwch â ni drwy lawrlwytho ein pecyn ac adnoddau partneriaid i gefnogi'r Ymgyrch Gwych hwn a chyflawni eich nodau cynaliadwyedd.

Mae asedau'r ymgyrch dan embargo tan ddydd Llun 22 Medi 2025.

Cynhelir yr ymgyrch tan ddydd Sul 19 Hydref.

Lawrlwytho ffeiliau

01: Pecyn adnoddau partneriaid

02: Animeiddiadau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

03: Asedau statig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

04: Fideos a chynnwys dylanwadwyr

05: Calendr cyfryngau cymdeithasol

06: Erthyglau y gellir eu teilwra

07: Posteri

08: Llunwaith lifrai cerbydau

09: Llunwaith llochesi bysiau

10: Llunwaith baneri polion lamp

11: Achub fi! Ailgylcha. - poster tirwedd ac ased cyfryngau cymdeithasol portread

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf
23 Medi 2025
Fformatau ffeiliau
pdf, zip, mp4, xlsx, jpg
Ardaloedd
Deunyddiau
Ymgyrchoedd
Cymru yn Ailgylchu Be Mighty. Recycle.