18 Medi 2024 Astudiaeth Achos

Cymru: yn arwain y ffordd tuag at economi gylchol

O un o’r cyfraddau ailgylchu isaf yn Ewrop i ail genedl orau’r byd, mae Cymru wedi trawsnewid ei systemau ailgylchu a chadarnhau ei lle fel arweinydd ar yr economi gylchol.

Problem

Gyda chyfraddau ailgylchu difrifol o isel, sylweddolodd Llywodraeth Cymru fod angen newid sylweddol. Fe wnaethant alw ar WRAP i helpu cyflwyno rhaglen uchelgeisiol dros nifer o flynyddoedd.

Ateb

Rhoddodd WRAP gefnogaeth i Lywodraeth Cymru ddatblygu seilwaith ailgylchu hanfodol a chyrraedd targedau cyfradd ailgylchu uchelgeisiol. Mae’r bartneriaeth wedi ymestyn y tu hwnt i ailgylchu, gan gydweithio i wreiddio Ffordd Gylchol o Fyw ledled Cymru.

Effaith

Mae Cymru nawr yn ail genedl orau’r byd am ei chyfraddau ailgylchu. Gyda’n gilydd, rydym wedi osgoi cannoedd ar filoedd o dunelli o wastraff, gan gynhyrchu cannoedd o swyddi newydd, cynaliadwy. 

Problem

Mae gan wledydd ledled y byd nawr uchelgeisiau neu nodau sy’n cefnogi creu economi gylchol, ond mae troi’r rheiny yn gynlluniau y gellir gweithredu arnynt i sbarduno trawsnewid systemig yn her enfawr.

Yn gynnar yn y 2000au, roedd cyfraddau ailgylchu mor isel â 5% yng Nghymru, ymysg yr isaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod yr angen i newid ac ariannu WRAP i’w cefnogi mewn rhaglen uchelgeisiol, drawsnewidiol i barhau am nifer o flynyddoedd.

Ateb

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion cynaliadwyedd ers datganoli grym o Lywodraeth ganolog y Deyrnas Unedig:

Datblygu seilwaith ailgylchu hanfodol

Yn 2011, cefnogodd WRAP Lywodraeth Cymru i ddatblygu seilwaith ailgylchu hanfodol ar ffurf Glasbrint Casgliadau, gan gydweithio â’r llywodraeth ddatganoledig ac awdurdodau lleol. Roedd goblygiadau ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol systemau casglu ailgylchu presennol yn sail i greu model newydd a oedd yn gwella cyfraddau ailgylchu ac yn bodloni nodau cynaliadwyedd gan sicrhau arbedion cost i awdurdodau lleol.

Sbarduno targedau uchelgeisiol

Defnyddiwyd ymchwil WRAP i osod targedau cyfreithiol-rwymol i roi Cymru ar y llwybr tuag at gyfradd ailgylchu uchelgeisiol o 70%. Gan ddefnyddio ein rhwydwaith dibynadwy o gysylltiadau gydag ymchwilwyr a busnesau, buom yn gweithio gyda’r llywodraeth i gyrraedd y targed hwn ac i gryfhau eu casgliadau ailgylchu, gan dreialu a chynyddu graddfa dulliau casglu newydd. Fe wnaethom hefyd gynnal nifer o ymgyrchoedd gwybodaeth a newid ymddygiad, a chreu offerynnau digidol i helpu pobl i ailgylchu gartref ac yn y gweithle.

Gweinyddu cyllid i wreiddio Ffordd Gylchol o Fyw

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai un rhan yn unig o’u strategaeth ehangach ar gyfer economi gylchol yw ailgylchu. O 2013 ymlaen buom yn helpu Llywodraeth Cymru i weinyddu cyllid a grantiau i fusnesau sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio cynnwys eilgylch neu ailddefnyddio deunyddiau neu nwyddau a fyddai’n wastraff fel arall, gan sicrhau bod cylcholdeb yn gweithio o safbwynt economaidd. Yn fwyaf diweddar buom yn dyfarnu grantiau fel rhan o’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn a lansiwyd yn 2019.

Ers 2016, mae WRAP wedi bod yn darparu cymorth i sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru wreiddio cynaliadwyedd a phrosesau carbon isel yn eu prosesau caffael, ac roedd 2021 yn nodi ein cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gynllun plannu coed gwerth £9 miliwn. 

Effaith

Gwelsom fod Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth arbenigedd a dull aml-randdeiliad WRAP, yn gyfuniad pwerus: mae Cymru bellach yn arweinydd yn yr economi gylchol ac mae gan y wlad yr ail gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd. Mae cannoedd ar filoedd o dunelli o wastraff ac allyriadau carbon wedi'u hosgoi ac mae cannoedd o swyddi newydd, cynaliadwy wedi'u creu. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu mwy, o lai.

Llwyddiant WRAP yng Nghymru:

  • Mae dros £4.5 biliwn o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi’i gyfeirio at opsiynau cynaliadwy gan greu enillion sylweddol o £12 am bob £1 a wariwyd.
  • Mae dros £10 miliwn o gyllid a grantiau wedi’u rhoi i fusnesau sy’n gweithio yn yr economi gylchol.
  • Mewn prosiectau cadwyn gyflenwi dethol a ariennir trwy grantiau a weinyddir gan WRAP, cynyddodd y defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn cynhyrchion i gymaint â 100%. Arweiniodd hyn at ostyngiad o 50% mewn allyriadau carbon i rai busnesau, gan sicrhau enillion ar fuddsoddiad o £2.49 am bob £1 a wariwyd. 

Mae WRAP yn parhau i gefnogi cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gyflawni economi diwastraff, sero net, gyda’n camau nesaf yn canolbwyntio ar eu helpu i gyflawni diwylliant cyffredinol o ailddefnyddio ac atgyweirio.

Golwg fanylach: Cyngor Conwy

Mae gwaith WRAP yng Nghymru wedi cynnwys cydweithio agos ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol, a’n gwaith gyda Chyngor Conwy yw’r enghraifft gryfaf ohonynt — cyflawni atebion lleol ymarferol, gan sefydlu modelau y gellir cynyddu eu graddfa ac y gellid o bosibl eu defnyddio mewn mannau eraill.

Yn 2013 cefnogodd WRAP Gyngor Conwy i uwchraddio ei system casglu ailgylchu, gan ganolbwyntio ar greu cynllun hawdd ei ddefnyddio a oedd yn sicrhau casglu deunyddiau o ansawdd uwch mewn symiau mwy. Buom hefyd yn helpu i greu atebion dylunio arloesol, megis y system newydd hawdd ei phentyrru ‘Trolibocs’ ar gyfer ailgylchu yn y cartref. Ar ôl cynllun peilot llwyddiannus, cefnogodd WRAP y gwaith o’u cyflwyno ledled y sir.

Fe wnaeth lansio’r system newydd:

  • gynyddu faint o ailgylchu a gasglwyd gan amcangyfrif o 600 o dunelli’r flwyddyn yng Nghonwy
  • atal gwerth mwy na £60,000 o ddeunydd rhag mynd i dirlenwi
  • cynhyrchu £40,000 mewn incwm ailgylchu ychwanegol i’r Cyngor, a  
  • galluogi’r Cyngor nid yn unig i gyrraedd, ond i ragori ar y targedau ailgylchu statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhan hollbwysig o’r gwaith a wnawn yn digwydd ar ôl rhoi newidiadau ar waith.

Rydym yn cynnal ymchwil i werthuso effaith y newidiadau rydym yn eu cyflwyno, ac yn achos Cyngor Conwy, canfuwyd bod trigolion yr un mor fodlon â’r gwasanaeth, gydag 83% o ymatebwyr yr arolwg yn dweud eu bod yn defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu bob wythnos.