Er mwyn creu byd amrywiol a chynaliadwy, mae angen i ni fod yn sefydliad amrywiol a chynaliadwy.
Sefydliad lle caiff cyfoeth gwahanol farn, profiadau a galluoedd ei harneisio. Sefydliad sy'n edrych y tu hwnt i'w ffiniau ei hun, ac sy'n gyfforddus y tu allan i'w lefel cysur ei hun.
Mae WRAP yn falch o fod wedi ennill y Wobr Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth, a gydnabyddir fel y safon cydraddoldeb cenedlaethol. Rydym wedi ymrwymo i barhau â’n siwrne tuag at sicrhau bod egwyddorion FREDIE (Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu) wedi’u hymgorffori’n llawn ym mhopeth a wnawn yn WRAP. Byddwn yn buddsoddi ymhellach ac yn cymryd camau sy’n gwneud WRAP yn sefydliad y mae pobl am weithio iddo a gweithio mewn partneriaeth ag ef, oherwydd y cynwysoldeb yr ydym yn ei gynnig.

Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel o'r ymddygiadau a'r safonau rydyn ni eisiau cadw’n hunain yn atebol iddyn nhw. Gobeithio felly y gallwn ni chwarae ein rhan nid yn unig wrth adeiladu WRAP cryfach, ond hefyd i wneud y byd yn lle tecach a mwy cyfiawn i fyw a gweithio ynddo.

Rydym hefyd yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd – Cyflogwr (lefel 2), ac wedi cofrestru gyda Chynllun Hyderus o ran Anabledd y llywodraeth.
Fel sefydliad Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae WRAP wedi ymrwymo i:
- sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch;
- cyfathrebu a hyrwyddo swyddi gweigion;
- cynnig cyfweliad i bobl anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd;
- rhagweld a darparu addasiadau rhesymol yn ôl yr angen;
- cefnogi unrhyw weithiwr presennol sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor neu sy'n cael anabledd, gan eu galluogi i aros mewn gwaith;
- o leiaf un gweithgaredd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl, megis interniaethau neu leoliadau profiad gwaith.
Gallwch ddysgu mwy am y Cynllun Hyderus o ran Anabledd yma.
Gallwch ddarllen mwy am ein hymagwedd at degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein llyfryn.