Cynhaliwyd y weminar hon ar y Gronfa Economi Gylchol ddydd Iau 22 Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, mae recordiad ar gael ar YouTube (sylwer mai yn Saesneg cynhaliwyd y digwyddiad), ac mae croeso ichi gysylltu â ni ar [email protected] gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Gwahoddir sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru i gofrestru ar gyfer gweminar am ddim (22 Gorffennaf, 10yb) i ddysgu am y grantiau cyfalaf sydd ar gael gan y Gronfa Economi Gylchol.
Bydd y fenter hon gan Lywodraeth Cymru, ac a ddarperir gan WRAP Cymru, yn cyflymu symudiad Cymru tuag at economi gylchol trwy gynyddu’r galw am ddeunyddiau eilgylch, cadw adnoddau mewn cylchrediad yn hytrach na’u bod yn cael eu llosgi neu eu hanfon i dirlenwi, a thrwy gefnogi twf busnes.
Pwy ddylai gofrestru?
Anogir gwneuthurwyr sy’n chwilio am gyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf i gynnwys neu i gynyddu defnydd cynnwys eilgylch (o bapur / cerdyn, plastig neu decstilau) mewn cynnyrch, cydrannau neu ddeunydd pecynnu a gynhyrchir yng Nghymru – boed hwnnw’n bodoli eisoes neu’n newydd i’r farchnad, a sefydliadau sy’n ymwneud â gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu.
Caiff canolwyr busnes sy’n gweithio gyda gwneuthurwyr sy’n gweithredu yng Nghymru gofrestru ar gyfer y gweminar hefyd er mwyn rhoi manylion a chefnogaeth lawn i’w gleientiaid.
Beth fydd yn cael ei drafod?
Caiff mynychwyr y gweminar ddysgu mwy am y grantiau sydd ar gael – yn cynnwys meini prawf cymhwyso ac asesu, sut i wneud cais a dyddiadau cau ymgeisio – ac, yn bwysig, i ofyn unrhyw gwestiynau y gallech fod eisiau eu holi drwy gyfrwng yr adnodd sgwrsio byw.
Sut i sicrhau eich lle am ddim
I gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r tri digwyddiad, cwblhewch y ffurflen fer sydd ar gael trwy’r ddolen isod.
Eich gwybodaeth
Oni bai eich bod yn cadarnhau eich bod yn fodlon derbyn diweddariadau e-bost achlysurol ynglŷn â’r Gronfa Economi Gylchol, dim ond at ddiben trefnu’r digwyddiad hwn a chreu adroddiadau mewnol y gwnaiff WRAP ddefnyddio’r wybodaeth a roddwch yma, a gellir ei rannu â Llywodraeth Cymru (yr ariannwr). Ni chaiff eich manylion personol fyth eu rhoi i unrhyw drydydd parti arall heb gael eich caniatâd yn gyntaf, oni bai ein bod dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth. Gweler ein polisi preifatrwydd am ragor o fanylion. Cedwir yr wybodaeth a roddwch am gyfnod o chwe blynedd a’i ddileu wedi hynny, neu gellir ei ddileu ar eich cais chi trwy anfon e-bost at [email protected], pa un bynnag sydd yn digwydd gyntaf.