- Mae ymchwil newydd yn datgelu fod teuluoedd yng Nghymru’n gwastraffu mwy o fwyd nag unrhyw grŵp arall, yn bennaf oherwydd pwysau amser.
- Er bod 82% o deuluoedd yn poeni am gostau bwyd cynyddol, mae’r cartref pedwar person ar gyfartaledd yn dal i wastraffu gwerth £84 o fwyd bob mis.
- Fe ddaeth Joanna Page a Chris Roberts at ei gilydd mewn Caffi yn Ynys y Barri i rannu bwydlen hyblyg, gyfeillgar i deuluoedd sy'n helpu aelwydydd leihau gwastraff ac arbed arian.
Mae ymchwil newydd gan Cymru yn Ailgylchu yn datgelu bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru (24%) a bron i draean (31%) o deuluoedd â phlant sy'n byw gartref yn disgyn o fewn y categori 'gwastraffwyr bwyd uchel', yn bennaf oherwydd eu hamserlenni heriol. Ac eto, mae naw o bob deg yn cytuno bod gan bawb gyfrifoldeb i leihau gwastraff bwyd gartref.
Er mwyn helpu teuluoedd prysur a lleihau effaith ariannol ac amgylcheddol gwastraff bwyd, mae Cymru yn Ailgylchu wedi ymuno â’r fam brysur a seren Gavin a Stacey, Joanna Page, ynghyd â’r cogydd o Gymru Chris “Flamebaster” Roberts, cyflwynydd Chris Cooks Cymru ar y BBC. Gyda'i gilydd maen nhw'n arwain ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. eleni – ymgyrch cenedlaethol i helpu teuluoedd arbed amser ac arian a lleihau gwastraff.
Canfu'r ymchwil hefyd fod 82% o deuluoedd yn poeni am gost bwyd. Ond eto, mae’r aelwyd gyfartalog yng Nghymru’n taflu gwerth £84 o fwyd bob mis, sy’n gyfanswm aruthrol o £800m i Gymru gyfan bob blwyddyn. Er bod y rhan fwyaf o deuluoedd (61%) yn dweud eu bod yn mwynhau coginio, cyfyngiadau amser yw’r her fwyaf o hyd, gyda 56% yn cael trafferth dod o hyd i’r amser i baratoi prydau, gan neidio i 62% ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 12 oed – sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 39%.
Fel rhieni sy'n gweithio, a phedwar o blant bob un ganddynt, Mae Joanna a Flamebaster wedi creu bwydlen o brydau cyflym, hawdd a hyblyg sy'n sicr o fod yn llwyddiant mewn unrhyw deulu. Yn bwysicach fyth, mae’r ddau yn dangos sut i ddyrchafu ein prydau bwyd cartref bob dydd, gan eu trawsnewid yn brydau blasus gyda chynhwysion sydd yn aml mewn perygl o gael eu gwastraffu.
Meddai Joanna Page, “Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Cymru yn Ailgylchu a Chris i helpu teuluoedd leihau gwastraff bwyd ac arbed arian gyda ffefrynnau cyflym, hawdd a maethlon y gallwn roi hwb iddynt gyda pha bynnag gynhwysion sydd ar ôl yn yr oergell.
Gall amser bwyd yn ein tŷ ni fod yn brysur iawn gyda phedwar o blant i’w bwydo, pob un â'i hoffterau ei hun, felly rydyn ni wedi datblygu ambell i bryd lysh sy'n ddigon hyblyg i fodloni unrhyw fwytäwr ffyslyd ac yn ddigon syml i deuluoedd prysur. Ar yr un pryd, mae'n helpu i leihau'r bwyd sy'n mynd i'r bin, gan arbed arian i ni i gyd.
Gan gyfeirio at rôl eiconig Joanna, mae'r fwydlen yn cynnwys yr Omled Gwagio’r Oergell gWYch – gwedd newydd ar omled clasurol yn cynnwys llysiau gwyrdd a chaws dros ben, ond sy’n ddigon hyblyg i gael ei addasu ar gyfer bwytawyr ffyslyd gyda pha bynnag gynhwysion sydd wrth law. Fel opsiwn mwy swmpus, sy'n berffaith ar gyfer cartrefi sy'n caru rygbi a phlant llwglyd ar ôl ysgol, Mae Flamebaster wedi creu Cyri Cyw iâr Cymru “hanner a hanner”. Wedi'i wneud gyda chyw iâr dros ben ac wedi’i weini â reis a sglodion ‘gyda’u crwyn’, mae’r pryd hwn yn manteisio i’r eithaf ar rai o’r bwydydd sy’n fwyaf poblogaidd ond sy’n cael eu gwastraffu fwyaf yng Nghymru gan gynnwys cyw iâr, moron a thatws – gyda swm syfrdanol o hanner miliwn o datws yn cael eu gwastraffu yng nghartrefi Cymru bob dydd.
I orffen yn felys ac yn syml, mae'r fwydlen yn cynnwys Pwdin Iogwrt Ynys y Barri – pwdin syml, hyblyg, a maethlon sy'n cymryd ychydig funudau i'w baratoi ac sy'n sicr o fod yn boblogaidd gyda'r teulu cyfan, gan helpu i achub ffrwythau sydd mewn perygl o gael eu gwastraffu.
Aeth Joanna Page yn ei blaen i ddweud “Hefyd, rydyn ni eisiau gwneud Cymru yn wlad ailgylchu orau’r byd, felly cofiwch roi gwastraff bwyd anfwytadwy fel plisgyn wyau, pennau llysiau ac esgyrn cyw iâr, yn y cadi gwastraff bwyd, nid y bin.”
Mae data byd-eang ar ailgylchu yn dangos bod Cymru yn un o’r gwledydd gorau am ailgylchu, ac yn ail yn y byd. Fodd bynnag, er bod gwasanaethau casglu gwastraff bwyd ar gael i bob cartref, mae gwastraff bwyd yn parhau i fod yn broblem i Gymru.
Meddai Chris Roberts, “Dwi di bod yn hyrwyddo'r ymgyrch ers blynyddoedd achos dwi’n angerddol dros leihau gwastraff bwyd. Fel Joanna, mae genai bedwar o blant, felly dwi'n gwybod mor bwysig ’di cael prydau bwyd cyflym, hawdd, iach a fforddiadwy. Mae'r ryseitiau yma’n yn ticio'r bocsys i gyd, a mae’n defnyddio'r bwyd sy'n cael ei wastraffu fwya aml, fel tatws, cyw iâr a llysiau. Dwi’n egseited i ddangos i bobl sut maen nhw’n gallu lleihau gwastraff bwyd, arbed arian a helpu Cymru i fachu’r safle cynta!”
Bydd Joanna Page yn ymuno â Chris yn Bae 5 ar lan môr Ynys y Barri i ddysgu mwy o ffyrdd i osgoi gwastraffu bwyd. Ar y cyd â Chris, bydd Joanna’n creu clasur Cymreig, yn ogystal â datgelu ei galluoedd coginio omled go iawn.
Meddai Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd: “Mae pawb wedi chwarae eu rhan i helpu Cymru i ddod yn ail wlad ailgylchu orau’r byd. Diolch enfawr i bawb am eich ymdrechion.
Ond gallwn bob amser wneud mwy, felly mae'n wych bod yr ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. yn helpu teuluoedd i wneud hynny gyda syniadau am brydau ac awgrymiadau i leihau gwastraff bwyd. Mae hon yn ffordd bwysig iawn o helpu i greu economi gylchol, gan gadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl, ac osgoi gwastraffu bwyd y gellid bod wedi ei fwyta”.
Meddai Angela Spiteri, Uwch Reolwr Ymgyrch, WRAP, “Rydym wrth ein boddau’n gweithio gyda dau o eiconau Cymru ar brif ymgyrch gwastraff ac ailgylchu Cymru. Mae chwarter y bin sbwriel cyffredin yn cynnwys gwastraff bwyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono – felly ein ffocws yw manteisio i’r eithaf ar ein bwyd ac ailgylchu'r hyn na ellir ei fwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy. Eleni rydyn ni’n annog teuluoedd o Ynys y Barri i Fangor i ddefnyddio’r holl fwyd maen nhw’n ei brynu mewn ryseitiau cyflym a hyblyg i arbed arian ac amser, ac ailgylchu’r rhannau anfwytadwy – fel plisgyn wyau, esgyrn cyw iâr a thopiau moron – i helpu Cymru i sicrhau cyrraedd y brig.”
Mae ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. hefyd yn annog pobl i ddefnyddio eu casgliadau gwastraff bwyd lleol a rhoi unrhyw wastraff bwyd yn y cadi, nid yn y bin, gan helpu Cymru i gynhyrchu ynni, yn ogystal â helpu Cymru greu ynni adnewyddadwy, ynghyd â helpu i roi hwb i Gymru i rif un yn y byd am ailgylchu.
Nodiadau i olygyddion
- Ymchwil o – Traciwr Tueddiadau Bwyd 2024
- Gwastraff Bwyd a Diod Cartrefi yng Nghymru 21/22
- Mae'r ffigyrau'n cael eu cyhoeddi fel rhan o ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. a gynhelir gan WRAP drwy Cymru yn Ailgylchu. Mae’r ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn annog teuluoedd i ddefnyddio’r holl fwyd y maen nhw’n ei brynu mewn ryseitiau syml, cyflym, hyblyg i arbed arian ac amser, ac ailgylchu unrhyw beth na ellir ei fwyta – fel plisgyn wyau, esgyrn cyw iâr a phennau moron i helpu creu ynni adnewyddadwy! Yr ymgyrch hwn yw ymgyrch mwyaf Cymru erioed i gael Cymru i’r safle cyntaf am ailgylchu.